STIWDIO 1

Stiwdio 1 yw’r fwyaf o’r ddwy stiwdio.

Darperir system awyru, a gellir llogi’r stiwdio gyda chyfarpar llawn neu heb offer, ar sail ‘dry hire’.

  • 4,459 troedfedd sgwâr
  • Rig Goleuo
  • Rheilen ddwbl Cyclorama 360˚
  • System awyru llawn

  • Ardal Werdd gyda monitor allbwn stiwdio a theledu.
  • Ardal werdd lai ar y llawr cyntaf ar gyfer preifatrwydd
  • Cegin gydag adnoddau gwneud te a choffi a phopty microdon.
  • Swyddfa Gynhyrchu gyda wi-fi, llinell ffôn wedi ei neilltuo a monitor allbwn stiwdio.
  • Ystafell goluro gyda 4 ardal, un sinc a monitor allbwn stiwdio.
  • Prif ystafell wisgoedd gyda system awyru.
  • Tair ystafell wisgo gyda chawodydd a setiau teledu.
  • Peiriant golchi dillad a pheiriant sychu dillad.

Mae’r ardal dechnegol nesaf at y stiwdio a gellir cael mynediad iddo trwy ddrysau gwydr.

Oedwch uwchben y diagram i weld lluniau a manyldeb technegol.

Dewis eang o oleuadau ar gael, o Wyrdd CK i rigiau ‘White Out’.
Eiddo cwmni goleuo annibynnol Osprey Lighting Cyf yw’r rhain.
Cysylltwch â Rob James (rob@ospreylighting.com) am wybodaeth bellach ac am brisiau

Darperir cyflenwad 125 amp 3 phase ar lawr y stiwdio pe byddech yn dymuno goleuo gyda’ch goleuadau eich hunain.

Pe byddech yn dymuno defnyddio’ch goleuadau eich hunain o’n rig goleuo ni, byddem yn awgrymu eich bod yn defnyddio ein trydanwr ni.