AMDANOM NI

Mae Enfys yn falch o allu dweud ein bod wedi darparu adnoddau darlledu allanol a stiwdio ers dros 40 mlynedd.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi ffurfio tîm cyfeillgar, proffesiynol a brwdfrydig sydd wedi rhoi cymorth i ni ddatblygu a thyfu i fod y cwmni yr ydym heddiw.

Mae ein hannibyniaeth fel cwmni yn cael ei warchod yn ffyrnig yn y gred gadarn ein bod yn darparu gwasanaeth i gynhyrchwyr rhaglenni sydd yn gwbl rydd o ragfarn.